Lleoliad:
Fideo Gynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 19 Tachwedd 2020
Amser:
13.30 -
17.10
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6525
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Mike Hedges AS (Cadeirydd) Janet Finch-Saunders AS Llyr Gruffydd AS Jenny Rathbone AS Joyce Watson AS |
Tystion: |
Yr Athro Alastair Driver, Rewilding Britain Jerry Langford, Coed Cadw Arfon Williams, RSPB Clive Faulkner, Ymddiriedolaeth Natur Maldwyn Hilary Kehoe, Rhwydwaith Ffermio er Lles Natur Siân Stacey, Prosiect O'r Mynydd i'r Môr Elwyn Vaughan, Pwyllgor COPA Dafydd Morris Jones, Pwyllgor COPA |
Staff y Pwyllgor: |
Marc Wyn Jones (Clerc) Elizabeth Wilkinson (Ail Glerc) Andrea Storer (Dirprwy Glerc) Katy Orford (Ymchwilydd) Lorna Scurlock (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod rhithwir y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig.
1.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, cafwyd datganiad gan y Cadeirydd ei bod wedi penderfynu y dylid gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor i ddiogelu iechyd y cyhoedd.
1.3 Os byddai unrhyw broblemau technegol yn codi yn ystod y cyfarfod, gan olygu y byddai ei gyswllt band eang yn cael ei dorri, nododd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno y byddai Jenny Rathbone AS yn cymryd ei lle fel Cadeirydd Dros Dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.
1.4 Cafwyd ymddiheuriadau gan Neil Hamilton AS
2 Sesiwn ragarweiniol gan Rewilding Britain
2.1 Cafodd y Pwyllgor friff gan Prof Driver, Rewilding Britain am fioamrywiaeth ac ailwylltio.
2.2 Gofynnodd yr Aelodau gwestiynau a thrafodwyd materion allweddol a nodwyd yn y briff.
3 Bioamrywiaeth ac Ailwylltio: Sesiwn dystiolaeth 1 - Sector amgylcheddol
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Rhwydwaith Ffermio er Lles Natur, Ymddiriedolaeth Natur Maldwyn, Coed Cadw, Y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar (RSPB) Cymru, ac O’r Mynydd i’r Môr.
4 Bioamrywiaeth ac Ailwylltio: Sesiwn dystiolaeth 2 - Pwyllgor COPA (Cymunedau Oll Pumlumon a'r Ardal)
4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Bwyllgor COPA (Cymunedau Oll Pumlumon a'r Ardal).
5 Papurau i'w nodi
5.1 Cafodd y papur ei nodi.
5.1 Bioamrywiaeth ac Ailwylltio: Papur tystiolaeth gan Undeb Amaethwyr Cymru
6 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
6.1 Derbyniwyd y cynnig.
7 Bioamrywiaeth ac Ailwylltio: Trafod y dystiolaeth a daeth i law o dan eitemau 2, 3 a 4
7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod eitemau 2, 3 a 4.
8 Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Cymru: Trafod adroddiad drafft y Pwyllgor
8.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft, ac yn amodol ar ychydig o newidiadau, cytunodd arno.